David Cameron
Mae cefnogaeth yr ymgyrch ‘Ie’ yn y refferendwm ar newid i’r system bleidlais amgen – AV – wedi syrthio’n sylweddol, yn ôl pôl piniwn newydd.
Cyhoeddodd papur newydd y Guardian arolwg gan ICM y bore ma sy’n awgrymu fod yr ymgyrch ‘Na’ 16 pwynt ar y blaen.
Roedd pôl piniwn arall gan ICM ym mis Chwefror wedi awgrymu fod yr ymgyrch ‘Ie’ ddau bwynt ar y blaen.
Ymysg y bobol oedd yn dweud eu bod nhw’n debygol o bleidleisio yn y refferendwm ar 5 Mai, yr un diwrnod ag Etholiadau’r Cynulliad, roedd 58% yn erbyn a 42% o blaid.
Ddoe fe ymddangosodd y Prif Weinidog, David Cameron, ar lwyfan gyda chyn-ysgrifennydd Gwladol Prydain, yr Arglwydd Reid o’r Blaid Lafur, gan ddadlau yn erbyn newid i’r system bleidlais amgen.
Dywedodd y byddai’n gwneud clymbleidio yn fwy tebygol yn y dyfodol a’i fod yn system “aneglur, annheg a chostus”.
Fe fuodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, yn rhannu llwyfan gydag Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth San Steffan, Vince Cable o’r Democratiaid Rhyddfrydol, gan ddadlau o blaid pleidlais ‘Ie’.
Holodd ICM 1,033 o oedolion ar draws Ynysoedd Prydain o 15 i 17 Ebrill.