HMS Astute
Mae arweinydd cyngor wedi disgrifio sut y bu’n rhaid iddo daflu saethwr i’r llawr ar ôl i hwnnw ymosod ar ddau o swyddogion y Llynges Frenhinol ar long danfor niwclear.
Roedd arweinydd Cyngor Dinas Southampton, Royston Smith, yn ymweld â’r HMS Astute oedd wedi angoro yn nociau gorllewinol y ddinas.
Mae un o griw’r llong danfor wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio. Cafodd yr Is-Gadlywydd, Ian Molyneux, ei saethu yn farw a chafodd yr Is-Gadlywydd Chris Hodge ei anafu.
Mae Heddlu Hampshire wedi bod yn ymchwilio i’r saethu ar y cyd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dywedodd Royston Smith ei fod wedi gorfod taflu’r saethwr i’r llawr yn ystafell reoli’r llong danfor.
“Clywais i ddwy ergyd gwn, yn syth ar ôl iddo ddod i mewn i’r ystafell reoli,” meddai wrth y BBC.
“Rhedais i tuag ato, ei wthio yn erbyn y wal, a cheisio tynnu’r gwn oddi arno.
“Llwyddais i’w wthio i’r llawr a thynnu’r gwn oddi arno a daeth ambell un arall i helpu i’w atal rhag dianc.”
Ychwanegodd bod grŵp o blant ysgol wedi gadael y llong danfor toc cyn i’r saethwr ymosod.
Mae yna honiadau fod y saethu yn ymwneud â ffrae dros ddefnydd toiled, ond mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod ymateb i hynny.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, ei fod yn “drist iawn” wrth glywed fod un o swyddogion y Llynges Frenhinol wedi ei ladd.