Ci a cath

Mae elusen gwarchod anifeiliaid y RSPCA wedi rhybuddio pobol i gymryd gofal o’u hanifeiliaid yn ystod y tywydd poeth y penwythnos yma.

Mae disgwyl i’r tymheredd godi i rhwng 17-21 gradd Celsius ar draws Prydain ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae’r RSPCA yn galw ar berchnogion anifeiliaid anwes i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu gadael mewn ceir, tai gwydr neu garafanau.

“Mae perchenogion yn aml yn meddwl bod gadael bowlen o ddŵr i’r anifail anwes yn ddigon,” meddai llefarydd ar ran yr elusen.

“Mae hynny’n gamgymeriad. Os yw’n ddigon poeth fe fydd yr anifail yn dioddef trawiad gwres os oes ganddo ddŵr ai peidio. Fe allai hynny ladd yr anifail.

“Mae cŵn yn marw mewn ceir poeth. Peidiwch â gadael eich ci ar ei ben ei hun yn y car.”

Fe allai tymheredd o 22 gradd Celsius olygu bod y tymheredd mewn car yn codi i 47 gradd Celsius o fewn awr, meddai’r elusen.

Mae disgwyl na fydd y tywydd braf a sych yn parhau tu hwnt i’r penwythnos, ac y bydd y tymheredd yn gostwng a glaw yn cyrraedd ddechrau’r wythnos nesaf.

“Fe fydd hi’n oeri ddydd Llun a bydd y glaw yn sgubo i mewn i’r gogledd,” meddai Billy Payne, proffwyd tywydd MeteGroup.

“Fe fydd hi’n oer eto erbyn diwedd yr wythnos, a’r tywydd yn gyfnewidiol.”