News of the World
Mae News International, cyhoeddwr papur newydd News of the World, yn paratoi i dalu miliynau o bunnoedd mewn iawndal ar ôl cyfaddef eu bod nhw’n atebol am wrando ar negeseuon ffôn nifer o enwogion gan gynnwys Sienna Miller.

Cyhoeddodd y cwmni ddydd Gwener eu bod nhw wedi gofyn i’w cyfreithwyr greu cynllun iawndal er mwyn mynd i’r afael â “honiadau cyfiawnadwy”.

Ychwanegodd y cwmni eu bod nhw yn difaru ymddygiad y papur newydd “yn y gorffennol”.

Dywedodd Mark Lewis, sy’n cynrychioli nifer o enwogion sy’n honni fod y papur newydd wedi hacio eu ffônau, y gallai’r cwmni orfod talu miliynau o bunnoedd mewn iawndal.

Daw cyhoeddiad News International ar ôl i nifer o enwogion fygwth mynd a’r achos i’r Uchel Lys.

Deallir fod y cwmni wedi ymddiheuro i’r cyn Ysgrifennydd Diwylliant, Tessa Jowell, ei gŵr y cyfreithiwr David Mills, a’r darlledwr Andy Gray.

Dywedodd News International fod eu cyfaddefiad yn ymwneud â hacio ffônau rhwng 2004 a 2006.

Mae’n debyg na ydi rhai ffigyrau cyhoeddus eraill oedd yn credu fod eu ffônau wedi eu hacio, gan gynnwys Leslie Ash a’r Arglwydd Prescott, wedi eu cynnwys yn y cyfaddefiad.