Llys y Goron Southwark
Mae trydydd Aelod Seneddol wedi cael ei anfon i garchar am dwyllo tros lwfansau.
Fe gafodd y cyn AS Jim Devine ei garcharu am 16 mis yn Llys y Goron Southwark heddiw ar ôl i reithgor glywed ei fod wedi dal ati i dwyllo hyd yn oed ar ôl i sgandal y lwfansau ddod i sylw’r cyfryngau.
Roedd cyn-AS Livingston yn yr Alban wedi hawlio £8,835 trwy anfonebau ffug – yn ôl y barnwr, roedd wedi mynd ati’n fwriadol i dwyllo.
Roedd hefyd wedi dweud celwydd yn ystod ei dystiolaeth i’r llys, meddai Mr Ustus Saunders.
Roedd bargyfreithiwr y gwleidydd wedi dadlau ei fod wedi gweithio ar hyd ei oes i helpu pobol llai ffodus.