Sian O'Callaghan
Mae’r heddlu sy’n chwilio am Sian O’Callaghan, ddiflannodd yn oriau man y bore ddydd Sadwrn, wedi dod o hyd i’w chorff hi a dioddefwr arall.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Steve Fulcher, sy’n arwain yr ymchwiliad, fod dyn 47 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o herwgipio a dwy lofruddiaeth.
Daw datganiad yr heddlu ar ôl iddyn nhw gael gafael ar dacsi gwyrdd a welwyd yn oriau man y bore ddydd Sadwrn, ar ôl i Sian O’Callaghan, 22, ddiflannu.
Cafodd y Toyota Avensis ei weld rhwng 3am a 4am a 12pm a 9pm ddydd Sadwrn, rhwng Swindon a Choedwig Savernake ble fuodd yr heddlu yn chwilio.
“Mae dyn 47 oed o Swindon yn y ddalfa, wedi ai arestio ar amheuaeth o herwgipio ac am ddwy lofruddiaeth,” meddai Steve Fulcher.
“Dywedodd y dyn lle’r oedd y cyrff. Dyw un ohonyn nhw heb ei adnabod eto ond dw i’n eithaf siŵr mai corff Sian ydi o.
“Rydw i wedi rhoi gwybod i deulu Sian, sydd yn amlwg wedi torri eu calonnau, ac rydw i’n gofyn i chi roi amser iddyn nhw ddygymod â beth sydd wedi digwydd.”
Yn ôl adroddiadau roedd yr heddlu wedi arestio’r dyn y tu allan i archfarchnad Asda yn Swindon.
Aethpwyd a char Toyota gwyrdd hefyd ar gefn trelar.
Mae’r heddlu hefyd wedi dechrau chwilio tŷ yn Ashbury Avenue, Swindon.
Dywedodd cymdogion fod y dyn oedd yn byw yno yn ddyn tacsi oedd yn gyrru car gwyrdd.