Torri’r dreth ar danwydd oedd cyhoeddiad mawr annisgwyl y Canghellor, George Osborne.

Ar ben gohirio’r cynnydd a oedd i fod i ddigwydd ym mis Ebrill, fe fydd yn gostwng y dreth o 1ceiniog o chwech o’r gloch heddiw.

Fe fydd hefyd yn dileu’r drefn o godi pris tanwydd yn otomatig ac yn creu trefn o sefydlogi pris tanwydd.

Torri treth fusnes

Cyhoeddiad mawr arall oedd gostwng y dreth fusnes – Treth Gorfforaeth – o 2% eleni ac wedyn o 1% bob blwyddyn am dair blynedd.

Er y bydd trothwy talu treth yn codi, fe fydd rhagor yn dod i mewn i lefelau treth uwch oherwydd newid yn y drefn sy’n newid hynny’n otomatig.

Fe orffennodd ei araith trwy ddweud mai rheoli cyllideb y Llywodraeth oedd y ffordd orau i hybu twf.

Y nod, meddai, oedd “Prydain sy’n cael ei chario yn ei blaen gan y gwneuthurwyr – dw i wedi rhoi tanwydd yn nhanc yr economi”.

Dyma’r prif bwyntiau …

Y sylwadau cychwynnol

Fe ddywedodd y Canghellor George Osborne bod ei Gyllideb yn un i fynd o “achub i adfer” ac yn cydnabod y problemau sy’n wynebu teuluoedd tros gostau byw a phris tanwydd.

Ond fe rybuddiodd ar y dechrau na fyddai’n gallu rhoi llawer ac y byddai’r cyhoeddiadau yn niwtral – yn rhoi a chymryd yr un faint.

“Mae gan Brydain gynllun a r’yn ni’n cadw ato,” meddai. “Sefydlogrwydd, hygrededd a chyfraddau llog isel – dyna yr ’yn ni wedi ei gyflawni.”

Roedd agoriad yr araith yn cadarnhau dyfalu’r sylwebwyr – y bydda eisiau sôn am dwf a dangos ei fod yn cydymdeimlo gyda phobol gyffredin.

“Rhaid i dwf sector preifat ddisodli dyledion llywodraeth a rhaid i ffyniant gael ei rannu ar draws gwledydd Prydain,” meddai.

Er ei fod eisiau gweld Dinas Llundain yn ffynnu, roedd eisiau gweld gweddill gwledydd Prydain yn ffynnu o ran cynhyrchu, gwasanaethau busnes a’r economi gwyrdd.

Y cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau cefndir

Fe fydd y targed chwyddiant yn aros ar 2% o ran y Mesur Prisiau i Gwsmeriaid – er bod prisiau bwyd wedi codi 50% ers dechrau’r llynedd a phris tanwydd wedi codi 35% o fewn pum mis.

Arian wrth gefn y Trysorlys – nid y Weinyddiaeth Amddiffyn – fydd yn talu am holl gostau’r ymladd yn Libya.

Fe fydd y dyled y wladwriaeth o’i gymharu ag incwm yn cwympo erbyn 2015 – efallai flwyddyn ynghynt.

Cyhoeddiadau trethi

Y nod yw system syml, hawdd ei deall – ac fe ddywedodd y byddai’n torri 43 o wahanol oddefiadau treth a 100 o dudalennau o’r llyfr trethi.

Fe gadarnhaodd ei fod yn ystyried cyfuno treth incwm ac yswiriant cenedlaethol – gan symleiddio’r gwaith i gyflogwyr a llywodraeth a chamgymeriadau. Fe fydd y Llywodraeth yn ymgynghori ynglŷn â’r syniad tros nifer o flynyddoedd – ond symleiddio, nid cynyddu, treth oedd y nod.

Fe fydd treth ar gwmnïau – y Dreth Gorfforaeth – yn dod i lawr 2% yn hytrach nag 1% fel yr oedd wedi addo o’r blaen. Fe fydd hefyd yn syrthio 1% bob blwyddyn am dair blynedd nes dod i lawr i 23%. Ond fe fydd y Doll ar Fanciau’n cael ei haddasu i wneud yn siŵr na fyddan nhw’n elwa.

Fe fydd y drefn drethi’n cael ei symleiddio a’i llacio i ddenu busnesau tramor i wledydd Prydain.

Cyhoeddiadau busnes

Ymhlith nifer o newidiadau yn y system gynllunio, fe fydd blaenoriaeth i swyddi a gwaith, terfynau amser ar geisiadau, mwy o ryddid i symud o un defnydd i’r llall, arwerthiannau cynllunio ar dir.

Mwy o fantais treth i bobol sy’n buddsoddi mewn busnes.

Cynnydd yn y doll ar bobol sy’n cadw’u harian dramor – non-doms – ond gyda goddefiadau am fuddsoddi mewn busnes.

Addewid i weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i estyn polisi tebyg i’r un sy’n creu 21 o Barthau Menter yn Lloegr.

Ymestyn y ‘gwyliau trethi lleol’ i fusnesau bach am flwyddyn arall – ar gost o £370 miliwn.

Cynnydd mewn credyd treth i fusnesau sy’n gwario ar ymchwil a datblygu i 200% ac wedyn 225%.

Cyhoeddiadau eraill

£100 miliwn i gynghorau drwsio tyllau mewn ffyrdd – fe fydd Cymru’n cael ei chyfran o hynny.

Ynni Gwyrdd – gosod isafswm pris ar gyfer carbon deuocsid a buddsoddi £2 biliwn mewn Banc Buddsoddi Gwyrdd. Fe fydd hefyd yn cael benthyg.

Yn Lloegr, fe fydd 250,000 yn rhagor o lefydd i brentisiaid tros y pedair blynedd nesa’ a 100,000 o lefydd profiad gwaith yn y ddwy flynedd nesa’.

Cyhoeddiadau Pensiwn

Fe fydd y Llywodraeth yn creu trefn otomatig i godi oed pensiwn fel y bydd pobol yn byw’n hŷn.

Fe fydd y Llywodraeth yn ymgynghori ar gynigion Adroddiad Hutton a fyddai’n golygu bod gweithwyr sector cyhoeddus yn cyfrannu mwy, yn cael eu pensiwn yn hwyrach a chael llai.

Fe fydd trefn un-pensiwn-i-bawb yn cael ei chreu – gwerth tua £140 yr wythnos ar brisiau heddiw. Ond fydd hynny ddim yn effeithio ar bensiynwyr presennol ac fe fydd yn cymryd “rhai blynyddoedd” i’w sefydlu’n llawn.

Cyhoeddiadau trethi personol

Elusennau – os bydd pobol yn gadael 10% neu fwy o’u stad i elusen, fe fydd 10% yn cael ei dynnu oddi ar Dreth Etifeddiaeth. Ond dim ond yr elusennau sy’n elwa.

Elusennau – fe fydd yn bosib cael Cymorth Rhodd ar roddion o dan £5,000 heb lenwi ffurflenni. Fe fydd hynny’n cynnwys bocsys casglu.

Fe fydd camre’n cael eu cymryd i atal pobol rhag osgoi trethi – gwerth £1 biliwn y flwyddyn, yn ôl George Osborne.

Fe fydd y trothwy treth yn codi £630 arall y flwyddyn nesa’ – dyna’r trothwy cyn y bydd pobol yn dechrau talu treth. Fe fydd pob trethdalwr yn elwa o hynny.

Yn y dyfodol, fe fydd newidiadau yn y rhicynnau treth yn dilyn y Mesur Prisiau i Gwsmeriaid, gan olygu y bydd rhagor yn talu treth uwch.

Treth Teithwyr Awyrennau – Fydd hi ddim yn codi ym mis Ebrill, fe fydd ymgais i symleiddio’r dreth a threthu awyrennau preifat.

Alcohol a baco – cynnydd trethi ar gwrw cry’ a manion eraill ond fe fydd y rhan fwya’n dilyn addewidion y Llywodraeth Lafur.

Trwyddedi ceir – yn unol â chwyddiant ac wedi’u rhewi i gwmnïau cludiant.

Treth danwydd – fe fydd y cynnydd o 1c yn y dreth danwydd (gwerth 5c ar litr o betrol) yn cael ei ohirio am flwyddyn – roedd i fod i ddigwydd ddechrau Ebrill. Ond fe aeth ymhellach trwy ostwng y dreth o 1c.

Treth danwydd – fe fydd y drefn otomatig o gynyddu’r dreth yn cael ei ddileu os yw pris olew’n uchel. Toll ychwanegol ar elw o olew Môr y Gogledd fydd yn talu am hyn.