Silffoedd bwyd mewn archfarchnad
Mae disgwyl y bydd cynnydd pellach mewn costau byw’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl arbenigwyr ariannol, mae’r ffigurau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, yn debyg o ddangos cynnydd o 4.3% mewn prisiau i gwsmeriaid yn ystod mis Chwefror.

Mae hyn yn uwch na’r lefel o 4% ym mis Ionawr ac ar ei ucha’ ers 28 mis. Mae pennaeth Banc Lloegr, Mervyn King, wedi rhybuddio y gallai lefel y cynnydd godi i 5%.

Fe allai hynny greu argyfwng i lawer o deuluoedd wrth i gyflogau fethu â chodi ar yr un raddfa ac fe fydd yn cynyddu’r pwysau ar i’r Banc godi cyfraddau llog.

Mae’r rheiny ar eu hisa’ erioed ar 0.5% ond fe fyddai eu codi’n creu trafferthion i bobol sy’n talu morgeisi.

Mae prisiau rhai deunyddiau crai wedi codi’n arw yn ystod y misoedd diwetha’, gan gynnwys cotwm, gwenith a thanwydd.