Mae diweithdra’n uwch nag y mae wedi bod ers 17 mlynedd, a diweithdra ieuenctid yn uwch nag erioed, yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi.
Fe wnaeth cyfanswm y di-waith godi 27,000 yn y tri mis yn arwain at Ionawr i 2.53 miliwn – y ffigur gwaethaf ers 1994.
Ac mae nifer y bobl ifanc 16 i 24 oed sydd allan o waith wedi cynyddu 30,000 i 974,000 – y nifer uchaf ers i’r dull presennol o gofnodi gychwyn yn 1992.
Gydag un o bob pump o bobl ifanc bellach allan o waith, mae’r gyfran hefyd yr uchaf a gofnodwyd erioed.
Mwy mewn gwaith
Ar y llaw arall, mae’r nifer o bobl mewn gwaith wedi cynyddu 32,000 i 29.16 – y nifer uchaf ers hydref y llynedd.
Fe fu cwymp o 45,000 yn y nifer sy’n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yn ystod chwarter olaf 2010 – ac roedd hyn cyn i effaith lawn toriadau gwario’r Llywodraeth ddod i rym.
Ond cafodd hyn ei wrthbwyso gan gynnydd o 77,000 mewn cyflogaeth yn y sector preifat dros yr un cyfnod.
Ac mae mwy nag erioed o bobl dros 65 oed mewn gwaith. Fe fu cynnydd o 56,000 dros y chwarter diwethaf i 900,000. Yn yr un modd fe fu cynnydd o 25,000 yn y bobl rhwng 50 a 64 mewn gwaith dros yr un cyfnod.
Fe wnaeth cyfartaledd enillion gynyddu 2.3% yn y flwyddyn at fis Ionawr – 0.5% o gymharu â’r mis blaenorol, cynnydd sydd i’w briodoli’n bennaf i daliadau bonws yn y sector ariannol a gwasanaethau busnes.
Roedd cyflogau’n £456 yr wythnos ar gyfartaledd ym mis Ionawr, gan gynnwys taliadau bonws.
Roedd hanner miliwn o swyddi gwag yn y tri mis yn arwain at fis Chwefror.