Mae cynhyrchydd y gyfres deledu Midsomer Murders wedi cael ei wahardd ar ôl dweud mai rhan o apêl y rhaglen yw absenoldeb lleiafrifoedd ethnig. 

Mae cwmni cynhyrchu All3Media wedi gwahardd Brian True-May o’i waith tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal. 

Fe ddywedodd y cynhyrchydd wrth y Radio Times na fyddai rhaglen ITV1 sydd wedi rhedeg am 14 cyfres “ddim yn gweithio” pe bai yna amrywiaeth hiliol o fewn y rhaglen. 

 “Dy’n ni ddim yn cael lleiafrifoedd ethnig yn rhan o’r rhaglen- oherwydd ni fyddai’n bentref Saesneg gyda nhw ynddo.  Ni fyddai’n gweithio,” meddai Brian True-May. 

 “Ni yw’r gaer olaf o Saesnigrwydd ac rwyf am ei gadw fel yna.”     

 Mae ITV wedi dweud eu bod nhw wedi cael eu synnu gan eiriau Brian Ture-May ac nad ydynt yn rhannu’r un farn ag ef. 

 Mae rhaglen Midsomer Murders wedi cael ei seilio ar lyfrau Caroline Graham ac fe gafodd ei lansio yn 1997.  Mae’r rhaglen gyntaf mewn cyfres gwbl newydd yn dechrau’r wythnos yma.