Senedd yr Alban
Fe allai term Senedd yr Alban barhau am flwyddyn ychwanegol yn y dyfodol, yn ôl Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore.
Fe fyddai’n newid yn debygol o arwain at alwadau i wneud yr un fath yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae termau Cynulliad Cymru a Senedd yr Alban yn parhau am bedair blynedd.
Ond wrth i Lywodraeth San Steffan ddatgelu cynllun i sicrhau bod pum mlynedd union rhwng bob Etholiad Cyffredinol, daeth i’r amlwg y byddai’r etholiadau yn cyd-daro yn 2015.
Y pryder yw y bydd yr Etholiad Cyffredinol yn golygu nad yw Etholiadau’r Cynulliad ac Etholiad Seneddol yr Alban yn cael digon o sylw.
Dywedodd Michael Moore wrth bapur newydd The Herald yn yr Alban y byddai term pum mlynedd o hyd yn golygu nad yw Etholiadau Seneddol yr Alban a’r Etholiadau Cyffredinol byth yn cyd-daro eto.
“Rydyn ni yn ystyried a ddylai’r term pum mlynedd ddigwydd unwaith [er mwyn osgoi Etholiad Cyffredinol 2015], neu a ddylai fod yn drefn barhaol,” meddai.
“Pan benderfynwyd ar dermau pedair blynedd yn wreiddiol, roedd hynny o ganlyniad i lawer iawn o drafod â’r cyhoedd.
“Ond mae’n deg ac yn gywir ein bod ni’n ystyried y peth yn llawn ar ôl yr etholiadau ym mis Mai.”