Alex Salmond
Fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn addo na fydd byth yn caniatáu i fyfyrwyr yr Alban dalu ffioedd dysgu, heddiw.
Bydd arweinydd yr SNP yn siarad yn ystod cynhadledd ei blaid yng Nglasgow heddiw.
Yn ei araith fe fydd yn addo “amddiffyn yr egwyddor hanesyddol Albanaidd y dylai addysg fod ar ddim, ac yn seiliedig ar y gallu i ddysgu nid y gallu i dalu”.
Dywedodd na fyddai myfyrwyr yr Alban yn gorfod talu’r ffioedd uwch sydd ar fin cael eu gorfodi ar fyfyrwyr Lloegr, os yw’r SNP yn cael eu hail-ethol ym mis Mai.
Fe fydd Etholiad Senedd yr Alban yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod ag Etholiadau’r Cynulliad, sef 5 Mai.
“Mae rhai o benaethiaid ein Prifysgolion yn credu y bydd Lloegr yn achub y blaen arnom ni. Ni fydd hynny’n digwydd,” meddai Alex Salmond yn ei araith.
“Ni fydd y wladwriaeth yn rhoi’r gorau i gefnogi addysg uwch. Fe fydd unrhyw fwlch mewn nawdd yn cael ei gau.
“Fe fydd cerrig yn toddi yn yr haul cyn i fi ganiatáu i ffioedd dysgu gael eu gorfodi ar fyfyrwyr yr Alban – drwy ddrws y cefn neu ddrws y ffrynt.”