(llun: PA)
Bydd y blaid Lafur yn galw ar weinidogion i “ohirio a thrwsio” sustem fudd-daliadau newydd, yn ystod dadl yn San Steffan ddydd Mercher (Hydref 18).
Pryder rhai Aelodau Seneddol yw bod y sustem – sydd yn cyfuno chwe math gwahanol o fudd-dal – yn gorfodi unigolion i aros yn rhy hir am daliadau ac yn gwthio llawer mewn i ddyled.
Yn ôl rhai adroddiadau mae 25 o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn ystyried gwrthwynebu’r sustem ‘Credyd Cynhwysol’ ac mae pryderon gall arwain at wrthryfela mewnol i’r blaid.
Mae’r Ysgrifennydd dros Waith a Phensiynau, David Gauke, wedi mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd yn bwriadu cyflwyno’r sustem ledled Prydain.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud bod modd i unigolion ddanfon ceisiadau am daliadau cynnar.
“Taith i’r tywyllwch”
Er hynny mae Cadeirydd y Pwyllgor dros Waith a Phensiynau, Frank Field, wedi beirniadu’r adran gan ddweud bod ganddyn nhw “dim syniad” ynglŷn â sut i weithredu’r polisi.
“Dydyn nhw ddim yn gwybod sawl person sydd yn aros wyth, 10, 12 wythnos am eu taliadau na pham,” meddai Frank Field.
“Dydyn nhw ddim yn gwybod a mae’n nhw methu gwybod os ydy pethau’n mynd o’i le. Mae’n anodd credu eu bod nhw wedi bwrw ymlaen â’r daith yma i’r tywyllwch.”