Llun: PA
Mae Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud bod angen mwy o eglurder gan Brydain cyn bod ail gyfnod trafodaethau Brexit yn medru dechrau.

Wrth annerch y Senedd Ewropeaidd yn Strasbwrg, dywedodd Jean-Claude Juncker ei fod yn croesawu tôn araith y Prif Weinidog, Theresa May, yn Fflorens fis diwethaf.

Er hynny mynnodd fod angen cyfaddawdu pellach ar rai materion gan gynnwys hawliau dinasyddion a’r ffin Wyddelig cyn bod modd dechrau trafodaethau am gytundeb masnach.

“O ran Brexit, dydyn ni o hyd ddim yn medru trafod y dyfodol â llawer o eglurder,” meddai Jean-Claude Juncker.

“Roedd araith y Prif Weinidog yn Fflorens yn addawol ond nid safbwynt negodi yw areithiau. Mae gwaith i’w wneud o hyd. Dydyn ni ddim wedi gwneud digon o gynnydd hyd yma.”

Michel Barnier                                                                                                     

Ategodd Prif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, at sylwadau Jean-Claude Juncker gan nodi bod “anghydfod difrifol o hyd,” dros sawl mater.

Mynnodd hefyd bod cynnig Theresa May i ddiogelu hawliau dinasyddion Ewrop a chyfraith y Deyrnas Unedig ddim yn ddigonol, a bod angen goruchwyliaeth Ewropeaidd dros y mater.