Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae’r Prif Weinidog Theresa May yn “hynod o siomedig” yn dilyn penderfyniad Adran Fasnach yr Unol Daleithiau i osod tollau mewnforio o bron i 220% ar fath newydd o awyren sy’n cael ei chynhyrchu gan Bombardier yng Ngogledd Iwerddon, meddai Downing Street.

Mae undebau wedi rhybuddio y gallai miloedd o swyddi fod yn y fantol yn dilyn y penderfyniad ac wedi cyhuddo Theresa May o laesu dwylo.

Mae mwy na 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi ym Melfast gan y cwmni o Ganada, ac mae miloedd o swyddi eraill yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu cefnogi drwy gadwyn gyflenwi’r cwmni, meddai’r undebau.

Mae cwmni awyrennau Boeing wedi cyhuddo Bombardier o dderbyn cymorthdaliadau annheg gan lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chanada, gan eu caniatáu i werthu eu hawyrennau am brisiau is yn yr Unol Daleithiau.

Bu’r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau yn trafod eu canfyddiadau ddoe ac fe fyddan nhw’n cyhoeddi eu dyfarniad terfynol ym mis Chwefror.

Roedd arweinydd y DUP, Arlene Foster wedi pwyso ar Theresa May i godi’r mater gyda’r Arlywydd Donald Trump pan oedd y ddau wedi cyfarfod yn Efrog Newydd yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd Arlene Foster bod y penderfyniad yn “hynod o siomedig” ond ychwanegodd nad dyma ddiwedd y broses.