Mae Henry Blofeld wedi sylwebu ar gêm griced am y tro olaf wrth i’r gyfres rhwng Lloegr ac India’r Gorllewin ddirwyn i ben yn Lord’s heddiw.

Lloegr oedd yn fuddugol o 2-1 yn y gyfres ar ôl ennill y trydydd prawf o naw wiced, a hynny ar ôl i James Anderson gipio wiced rhif 500 – y Sais cyntaf erioed i gyrraedd y garreg filltir honno.

Fe ddaeth sylwebaeth olaf Henry Blofeld ar y meicroffôn i ben toc ar ôl 4 o’r gloch pan ddywedodd: “Foneddigion a foneddigesau, dyna ni. Diolch. Rhaid i fi drio peidio â chwympo wrth i fi drosglwyddo i Ed Smith.”

Gyda’r frawddeg olaf honno, daeth bonllef o gymeradwyaeth gan y dorf oedd yn gwrando ar setiau radio.

Ar ddiwedd y gêm, fe gerddodd o amgylch Lord’s yn derbyn cryn gymeradwyaeth ymhell ar ôl i’r criced orffen, ac fe fydd cyflwyniad iddo’n ddiweddarach gan dîm criced Lloegr.

Gyrfa

Ac yntau’n 77 oed, mae Henry Blofeld – neu ‘Blowers’, yn ôl y ffugenw a gafodd gan ei ragflaenydd a chyd-sylwebydd Brian Johnston – wedi bod yn sylwebydd cyson gyda’r BBC ers 1972.

Fe fydd yn cael ei gofio am ei sylwebaethau ffraeth, ac yntau’n enwog am ei hoffter o drafnidiaeth gyhoeddus yn y cefndir, adar ar y cae a phob math o ryfeddodau eraill sydd i’w gweld ar gaeau criced.

Ond fel chwaraewr y gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Lord’s, y trydydd batiwr allan i ysgol Eton mewn gêm wrth i’r bowliwr gipio hat-tric – er nad oedd e’n sylweddoli hynny ar y pryd yn nryswch y gêm.

Fe sgoriodd e ddau ganred ar y cae hanesyddol, a’r ail ohonyn nhw fel cricedwr dosbarth cyntaf, ac yntau’n fyfyriwr yng Nghaergrawnt.

Yn ei ddyddiau cynnar fel sylwebydd, roedd yn aelod o dîm sylwebu oedd yn cynnwys John Arlott, Brian Johnston ac E.W. (Jim) Swanton, gan gyfaddef yn ddiweddar ei fod yn teimlo’n “nerfus”.

Ymhlith ei hoff atgofion fel sylwebydd, meddai, mae taith Lloegr i India’r Gorllewin yn 1967-68 a buddugoliaethau Lloegr yng Nghyfres y Lludw yn 1981 a 2005.