Bydd bachgen 16 oed sydd wedi ei gyhuddo o chwistrelli asid tros chwech o ddynion mewn awr a hanner, yn sefyll ei brawf fis Ionawr.

Mae’r glaslanc yn gwadu iddo dargedu wynebau’r dynion oedd ar gefn mopeds yn Llundain ar Orffennaf 13.

Nid oes modd enwi’r amddiffynnydd oherwydd ei oedran, ond daw o Croydon yn ne Llundain.

Trwy gyswllt fideo, ymddangosodd ger bron Llys y Goron Wood Green heddiw a chadarnhau ei enw a phledio’n ddieuog i 12 cyhuddiad yn ymwneud â’r ymosodiadau.

Mae’r glaslanc wedi ei gadw dan glo nes bydd yr achos yn Llys y Goron Wood Green fis Ionawr.