Ayeeshia-Jayne Smith (Llun: Heddlu Swydd Stafford)
Mae  adolygiad i achos plentyn a gafodd ei lladd gan ei mam, wedi dod i’r casgliad bod gweithwyr cymdeithasol wedi canolbwyntio’n ormodol ar anghenion y rhiant.

Bu farw Ayeeshia-Jayne Smith, 21 mis oed, ar ôl i’w mam sathru arni yng nghartref y teulu yn Burton-on-Trent, Swydd Stafford, ym mis Mai 2014.

Cafodd Kathryn Smith, 24, ei charcharu am oes ym mis Ebrill y llynedd a chafodd y llystad, Matthew Rigby, 22, ei garcharu am dair blynedd a chwe mis am achosi neu ganiatáu marwolaeth y plentyn.

Yn ôl adroddiad Bwrdd Diogelu Plant Derbyshire roedd “anghenion [y fam] yn aml yn cael eu blaenoriaethu” ac roedd diffyg “chwilfrydedd” gan y gweithwyr cymdeithasol.

Er bod awduron yr adroddiad yn derbyn nad oedd modd rhagweld y byddai’r plentyn yn cael ei lladd, dywedon nhw y dylai gweithwyr fod wedi “craffu” ar berthynas y fam a’i phartner ymhellach.

Ymddiheuriad

Ymhlith naw o argymhellion a wnaed yn yr adroddiad mae galwadau i gefnogi ac asesu tadau neu bartneriaid gwrywaidd hyd yn oed os nad nhw yw’r prif ofalwr.

Dywedodd tad Ayeeshia-Jayne wrth yr adolygiad nad oedd gweithwyr iechyd wedi gwrando arno nac ymgynghori gydag ef, yn enwedig pan oedd wedi lleisio pryderon am ei diogelwch.

Mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant Cyngor Derbyshire, Jane Parfrement, wedi nodi bod yr awdurdod yn derbyn casgliadau’r adroddiad.

“O ran y materion hynny lle gallai gweithredu fod wedi bod yn gryfach, ymddiheurwn i’r teulu, ac rydym eisoes wedi ymddiheuro i’r teulu,” meddai.