Mae dyn 35 oed wedi’i arestio wedi i saethu gael ei thanio ar y llain griced ar faes yr Oval.

Fe ddaeth y chwarae i ben, ac fe gafodd cefnogwyr eu hebrwng o’r maes yn Kennington, de Llundain, echdoe (ddydd Iau, Awst 31).

Heddiw, fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu’r Met eu bod nhw wedi arestio dyn ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn ystod y digwyddiad.

Mae’r dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys ddiwedd y mis hwn.