Mae naw o staff wedi eu gwahardd o’u gwaith mewn canolfan fewnfudo yn dilyn honiadau o gamdriniaeth yn erbyn y rhai sydd yn cael eu dal yno.

Daw’r gwaharddiadau wrth i raglen deledu Panorama y BBC ddatgelu eu bod wedi ffilmio swyddogion yn cam-drin preswylwyr yng nghanolfan fewnfudo G4S ger Gatwick.

Mae’r rhaglen yn honni fod rhai o’r swyddogion wedi “gwawdio, cam-drin a hyd yn oed ymosod ar garcharorion” gan honni fod cyffuriau “yn rhemp” yno.

Mae cwmni diogelwch G4S (Group 4 Securicor) wedi cadarnhau bod naw o’u gweithwyr wedi eu gwahardd ac y bydd ymchwiliad pellach i’r materion.

‘Gweithredu’n briodol’

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni nad yw wedi gweld y deunydd gan Panorama – mae disgwyl i’r rhaglen gael ei darlledu nos Lun.

Er hynny, dywedodd Jerry Petherick: “Does dim lle am y math o driniaeth sy’n cael ei disgrifio yn yr honiadau yn unrhyw le yn G4S.

“Unwaith  byddwn wedi gweld y dystiolaeth a’r ymchwiliad wedi cau, byddaf yn sicrhau ein bod yn gweithredu’n briodol.”

Canolfannau’r G4S

Mae’r ganolfan fewnfudo yn Gatwick yn un o ddwy sydd gan G4S yng Ngwledydd Prydain ac mae’n cynnig lle ar gyfer 508 o ddynion.

Cafodd pryderon eu codi yn dilyn yr arolwg diwethaf lle y daeth hi i’r amlwg fod pedwar dyn wedi’u dal yno am ddwy flynedd – gyda’r amser y mae pobol yn dreulio yno, ar gyfartaledd, wedi codi o 28 i 48 diwrnod.

Y llynedd fe wnaeth Panorama ddatgelu honiadau bod pobol ifanc yn cael eu cam-drin mewn canolfan i bobol ifanc yn cael ei redeg gan G4S yng Nghaint.