Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo mewn perthynas â gwrthdrawiad ar draffordd M1 a laddodd wyth o bobol.

Mae Ryszard Masierak, 31 o Swydd Gaerwrangon, yn wynebu wyth cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, pedwar cyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus ac wyth cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal drwy yfed a gyrru.

Mae e wedi’i gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon High Wycombe ddydd Llun.

Mae David Wagstaff, 53 oed o Stoke, yn wynebu wyth cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a phedwar cyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon Milton Keynes ar Fedi 11.