Dyw Gêmau Paralympaidd Llundain ddim wedi gwneud digon i newid agweddau at bobol anabl, meddai elusen.
Maen nhw’n dal i ddiodde’ sylwadau nawddoglyd a rhagfarn, meddai Scope sydd wedi cynnal arolwg union chwe blynedd ers y gêmau rhyngwladol.
Roedd y canlyniadau’n “anhygoel o siomedig” meddai Prif Weithredwr Scope, Mark Atkinson, yn enwedig o ystyried bod y Gêmau ar y pryd yn cael eu hystyried yn llwyddiant mawr.
Yr ystadegau
- Roedd 38% o’r bobol anabl a atebodd yr holiadur yn dweud nad oedd agweddau wedi gwella.
- Roedd 16% yn dweud eu bod wedi cael eu trin yn nawddoglyd ers 2012.
- Roedd 75% yn dweud nad oedd pobol wedi gwella yn eu ffordd o siarad gyda nhw.
Agweddau “weithiau’n waeth”
“R’yn ni’n gwybod na allwch chi newid agweddau mewn pythefnos,” meddai Mark Atkinson. “Ond nawr mae pobol anabl yn dweud wrthon ni nad yw agweddau ac ymwybyddiaeth y cyhoedd wedi newid – mewn rhai achosion, maen nhw’n waeth.
“Rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar y materion pwysica’ – mae angen gweithredu o ran gwaith, sicrwydd ariannol a chefnogaeth gofal cymdeithasol i bobol anabl.”