Mae achos dyn o Lerpwl sydd wedi’i gyhuddo o geisio ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), cyn i’w wraig feichiog ei riportio i’r awdurdodau, wedi’i ddiddymu.

Fe glywodd yr Old Bailey fel yr oedd Ismael Watson, 27, wedi teithio i Dwrci, ond fe gafodd ei rwystro a’i anfon yn ol i wledydd Prydain wrth iddo geisio croesi’r ffin i Syria.

Roedd y diffynnydd yn gwadu paratoi i gymryd rhan mewn gweithredoedd brawychol, ac roedd wedi dewis ei gynrychioli ei hun yn y llys, ac wedi gwrthod ymddangos gerbron y llys.

Ar ddydd ei achos, fe gafodd y rheithgor ei anfon adref gan y Barnwr Anuja Dhir QC, ac fe gafodd yr achos ei ohirio tan ddydd Gwener (Awst 11). Bryd hynny, fe fydd dyddiad achos newydd yn cael ei bennu.

Roedd y llys wedi clywed sut y daeth Jack Watson o deulu “cyffredin” yn Lerpwl, a chafodd ei ddisgrifio gan ei fam fel bachgen “mwyn, hyfryd a hawdd dylanwadu arno”. Ond, meddai wedyn, fe gafodd ei radicaleiddio a daeth yn ddilynwr Islam yn 2015.