Mae tri dyn o ganolbarth Lloegr wedi’u cael yn euog o gynllwynio ymosodiad ar darged milwrol yng ngwledydd Prydain.

Cafodd Naweed Ali, 29, a Khobaib Hussain, 25, o Sparkhill, Birmingham, a Mohibur Rahman, 33, o Stoke-on-Trent, eu barnu’n euog yn yr Old Bailey.

Cafodd y tri dyn eu harestio ym mis Awst llynedd pan wnaeth plismyn ddarganfod bom anghyflawn a chyllell mewn bag chwaraeon yng nghar Naweed Ali.

Gwnaeth y dynion wadu paratoi ymosodiad gan gyhuddo plismon cudd caiff ei alw’n Vincent,  o osod y dystiolaeth yn y cerbyd. Cafodd Vincent ei holi gan blismyn am 12 diwrnod a gwadodd y cyhuddiad.

Wedi 22 awr o drafod, daeth y rheithgor i benderfyniad unfrydol i farnu’r dynion – ynghyd â phedwerydd dyn Tahir Aziz, 38 – yn euog o weithredoedd brawychol.

Bydd y dynion yn derbyn dedfryd ar fore ddydd Iau.