Passchendaele (Llun parth cyhoeddus)
Mae nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yng Ngwlad Belg heddiw i gofio am Frwydr Passchendaele, a ddechreuodd union ganrif yn ôl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Tywysog Charles a Duges Cernyw, Prif Weinidog Prydain Theresa May a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Syr Michael Fallon ymhlith y rhai sy’n cynrychioli Prydain yn y digwyddiadau yn Ypres.

Bu farw degau o filoedd o bobol o wledydd Prydain, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn, yn y frwydr.

Mae gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal wrth gofeb Menin Gate, a bydd rhagor o ddigwyddiadau ddydd Llun.

‘Aberth’

Dywedodd Syr Michael Fallon fod y digwyddiadau’n gyfle i gofio “aberth” miloedd o filwyr, a’i bod yn “fraint” cael bod yng Ngwlad Belg.

Roedd milwyr o wledydd Prydain yn brwydro yng Ngwlad Belg rhwng Gorffennaf 31 a Thachwedd 10.

Bu farw dros hanner miliwn o filwyr yn y frwydr yn Fflandrys.

Bu farw’r olaf ohonyn nhw, Harry Patch yn 111 oed yn 2009.