John McDonnell, Canghellor yr wrthblaid, Llafur, LLun: PA
Mae arweinwyr Llafur wedi gwrthod awgrym gan y cyn-brif weinidog Tony Blair y gallai Prydain aros yn aelod o Undeb Ewropeaidd ar ei newydd wedd.

Roedd Tony Blair wedi dweud bod ethol Emmanuel Macron yn arlywydd Ffrainc yn agor y drws i’r math o newidiadau yn Ewrop a fyddai’n galluogi Prydain i aros i mewn.

Dywedodd Jeremy Corbyn fod Llafur yn parchu canlyniad y refferendwm y llynedd, a dywedodd canghellor yr wrthblaid, John McDonnell fod Llafur yn ffyddiog y byddai’n gallu bargeinio mynediad at farchnadoedd Ewropeaidd wedi Brexit.

“Os ydych chi’n gwrando ar bobl gyffredinol yn y wlad ar hyn o bryd, yr hyn maen nhw ei eisiau yw Brexit a fydd yn diogelu eu swyddi a diogelu’r economi,” meddai.