Cafodd mwy na 200kg o gyffuriau a 13,000 o ffonau symudol eu darganfod yng ngharchardai Cymru a Lloegr y llynedd.

Cafodd 7,000 o gardiau SIM eu darganfod hefyd. Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud bod y ffigurau’n “annerbyniol”, a’u bod yn arwydd o’r anawsterau sy’n wynebu staff carchardai yn sgil toriadau a chynnydd mewn trais.

Dywedodd y Gweinidog Carchardai Sam Gyimah na fyddai’r sefyllfa’n cael ei datrys dros nos, ond bod darganfod y ffonau symudol yn golygu bod staff y carchardai wedi llwyddo i atal rhagor o droseddau rhag cael eu cynllwynio.

‘Penderfynol’

Dywedodd fod buddsoddi mewn technoleg arbennig a 300 o gŵn sydd wedi’u hyfforddi i ddarganfod cyffuriau wedi helpu i atal troseddau.

“Dw i wedi egluro bod lefelau trais, cyffuriau a ffonau symudol yn ein carchardai’n annerbyniol. Ry’n ni wedi rhoi nifer o fesurau yn eu lle i helpu i darfu ar y gweithgarwch anghyfreithlon hwn gan ei fod yn fater dw i’n gwbl benderfynol o’i ddatrys.

Dywedodd fod Llywodraeth Prydain yn bwriadu cyflogi 2,500 o staff ychwanegol erbyn 2018.