Mae yna “gysylltiad clir” rhwng arian tramor o wledydd y Gwlff a’r ymosodiadau brawychol diweddaraf yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl Cymdeithas Henry Jackson, Sawdi Arabia sydd ar “frig y rhestr” o wledydd sydd wedi bod yn allforio ideoleg Islamaidd eithafol ac sydd wedi bod yn ariannu sefydliadau â’r daliadau yma.

Mae’r adroddiad yn honni bod “sawl” enghraifft o Brydeinwyr yn ymuno â grwpiau eithafol brawychol ar ôl bod ar ymweliad â sefydliadau sydd wedi eu hariannu gan wledydd y Gwlff.

Cafodd ymchwiliad o’r cysylltiad rhwng arian tramor â brawychiaeth Brydeinig ei lansio yn 2015 ond mae’n bosib y bydd hi byth yn cael ei chyhoeddi oherwydd sensitifrwydd y wybodaeth am Saudi Arabia.

“Cysylltiad clir”

“Mae yna gysylltiad clir rhwng arian o dramor ac eithafiaeth Islamaidd a’r frawychiaeth dreisgar ledled Deyrnas Unedig ac Ewrop,” meddai awdur yr adroddiad Tom Wilson.

“Mae’n allweddol ein bod yn bwrw ymlaen yn awr er mwyn mynd i’r afael â’r mater, er mwyn darganfod gwir ehangder yr hyn sy’n digwydd. Byddai ymchwiliad cyhoeddus yn sicr o gyfrannu at hyn.”