Fe fydd teuluoedd y 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl a fu farw yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield yn cael gwybod heddiw a fydd unrhyw un yn wynebu cyhuddiadau mewn perthynas â’u marwolaethau.
Mae disgwyl cyhoeddiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron ar ôl i gwestau benderfynu y llynedd fod y cefnogwyr wedi’u lladd yn anghyfreithlon yn ystod gêm rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ym mis Ebrill 1989.
Bydd y teuluoedd yn cael gwybod y penderfyniad mewn cyfarfod preifat, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae’r achos yn cael ei ystyried fel rhan o ymchwiliad Resolve ar y cyd â Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
Fe allai hyd at 23 o unigolion neu sefydliadau wynebu cyhuddiadau.
‘Teimladau cymysg’
Dywedodd cadeirydd y grŵp Hillsborough Family Support Group, Margaret Aspinall y byddai gan y teuluoedd “deimladau cymysg” heddiw.
“Beth bynnag sy’n digwydd, mi fydd yna ffordd hir o’n blaenau dw i’n credu, ond mae’r teuluoedd yn benderfynol o beidio byth â rhoi’r gorau iddi.
“Y cyfan r’yn ni ei eisiau yw atebolrwydd, dim byd mwy a dim byd llai.”
Cwestau
Yn Warrington y llynedd, penderfynodd y cwestau i farwolaethau’r 96 eu bod nhw wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon.
Cafodd gwallau eu nodi o ran cynlluniau ac ymateb yr heddlu, gweithredoedd y swyddogion oedd yn gyfrifol am blismona’r gêm, gweithdrefnau diogelwch y stadiwm, rheolaeth o’r stadiwm gan Glwb Pêl-droed Sheffield Wednesday ac ymateb y gwasanaeth ambiwlans.
Roedd gwallau wedi cael eu gwneud hefyd wrth i gwmni Eastwood & Partners ddylunio’r stadiwm.