Llun: PA
Mae gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwadu y bydd pobol o’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng ngwledydd Prydain yn dod yn ddinasyddion eilradd wedi Brexit.

Daw hyn wrth i Theresa May gyflwyno ei chynlluniau heddiw ar gyfer dinasyddion o’r UE sy’n byw ym Mhrydain gan gynnig “pecyn o hawliau.”

Mae Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wedi sicrhau’r 3.2 miliwn o ddinasyddion yr UE sy’n byw yng ngwledydd Prydain y bydd ganddyn nhw “i bob pwrpas” yr un hawliau â dinasyddion y Deyrnas Unedig.

Er hyn, mae’r cynllun eisoes wedi’i feirniadu gan arweinwyr yr UE yr wythnos diwethaf gyda Llywydd y Comisiwn, Jean-Claude Juncker yn eu disgrifio yn “gam cyntaf, ond ddim yn ddigonol.”

Pecyn o hawliau

Dywedodd David Davis na fyddai’n disgwyl i ddinasyddion yr UE gael eu halltudio oni bai eu bod wedi cyflawni trosedd neu’n ymwneud â materion diogelwch.

Ac ar ôl i Brydain adael yr UE, bydd rhaid i ddinasyddion yr UE sy’n ymgeisio am fisas fynd drwy’r un gwiriadau troseddol â thramorwyr eraill sydd am ddod i Brydain.

Dywedodd y byddai gan ddinasyddion yr UE sy’n byw ym Mhrydain “hawliau preswyl, cyflogaeth, iechyd, lles a phensiynau.”

Ychwanegodd fod Llywodraeth Prydain yn bwriadu cynnal y cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) sy’n sicrhau gofal meddygol ledled yr UE.