Mae bellach wedi ei gadarnhau bod 30 o bobol wedi marw yn y tân yn Nhŵr Grenfell, gyda’r ffigwr yn debygol o gynyddu eto, yn ôl yr heddlu.

Fe gadarnhaodd pennaeth Heddlu’r Metropolitan, Stuart Cundy, nifer y meirw wrth iddo siarad ger safle’r tŵr yng ngorllewin Llundain ddydd Gwener.

“Dw i’n gallu dweud nawr bod o leiaf 30 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r tân hwn,” meddai.

Dywedodd fod y dioddefwyr yn cynnwys un person sydd wedi marw yn yr ysbyty.

“Does dim byd i awgrymu ar hyn o bryd bod y tân wedi cael ei ddechrau yn fwriadol,” ychwanegodd.