Ddydd Mercher, Mehefin 21, ydi dyddiad agoriad swyddogol Senedd San Steffan.
Fe ddaeth cadarnhad y bydd y Frenhines yn traddodi’r Araith fydd yn amlinellu’r rhaglen ddedfwriaethol am y flwyddyn nesaf, gan Arweinydd Ty’r Cyffredin, Andrea Leadsom.
Yn y cyfamser, mae trafodaethau’n parhau rhwng y blaid Geidwadol a’r DUP o Ogledd Iwerddon ynglyn â’r ddêl a fydd yn sicrhau mwyafrif i Theresa May yn San Steffan.
Y bwriad gwreiddiol oedd i’r Frenhines ail-agor y Senedd ar Fehefin 19 – yr un diwrnod ag y mae disgwyl i drafodaethau Brexit agor ym Mrwsel.
Dyw hi ddim yn glir eto os y bydd trafodaethau Brexit yn digwydd y diwrnod hwnnw – er bod Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wedi dweud y bydd y trafodaethau’n dechrau “yr wythnos nesaf”.