Y Frenhines yn agoriad swyddogol y Senedd Llun: PA
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol Damian Green wedi cadarnhau y gall agoriad swyddogol y Senedd yn San Steffan gael ei ohirio am rai dyddiau wythnos nesaf, wrth i’r Ceidwadwyr barhau i drafod gyda’r DUP.

Hyd yn hyn nid yw llefarydd swyddogol y Prif Weinidog wedi cadarnhau a fydd Araith y Frenhines yn mynd rhagddi yn ôl y disgwyl ar Fehefin 19.

Ond yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet prynhawn ma, dywedodd Damian Green nad oedd modd cadarnhau’r manylion nes bod cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP.

Araith y Frenhines sydd yn amlinellu cynlluniau deddfwriaethol y Llywodraeth am y flwyddyn sydd i ddod.

Daw’r ansicrwydd wrth i’r Ceidwadwyr barhau gyda thrafodaethau â’r DUP er mwyn sicrhau bod agenda’r llywodraeth yn mynd drwy’r Senedd ar ôl i’r Ceidwadwyr fethu a sicrhau mwyafrif clir.

“Anrhefn”

Mae’r Ysgrifennydd Brexit David Davis wedi awgrymu y bydd rhai elfennau o faniffesto’r Ceidwadwyr yn cael eu hepgor yn sgil canlyniad siomedig yr etholiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: “Mae methiant Rhif 10 i gadarnhau dyddiad ar gyfer Araith y Frenhines yn dangos bod y Llywodraeth mewn anrhefn wrth ymdrechu i sicrhau cytundeb gyda phlaid sydd â daliadau ffiaidd tuag at LGBT a hawliau merched.”

“Llanast”

Yn y cyfamser mae Theresa May wedi bod yn cwrdd a’i Chabinet newydd cyn cwrdd ag Aelodau Seneddol ei phlaid.

Mewn cyfarfod gydag ASau meinciau cefn Pwyllgor 1922 prynhawn ma, dywedodd y Prif Weinidog Theresa May: “Fi yw’r person sydd wedi ein cael ni yn y llanast yma, a fi fydd yr un fydd yn ein harwain ni allan o’r llanast,” yn ol dwy ffynhonnell a oedd yn y cyfarfod.