Theresa May (llun o'i chyfri Twitter)
Mae Theresa May yn wynebu pwysau i ddatgelu mwy am y cytundeb posib gyda’r DUP wrth iddi gwrdd ag Aelodau Seneddol ei phlaid yn San Steffan heddiw.

Dros y penwythnos fe wnaeth benodi ei chabinet newydd, gyda thri aelod o  Gymru yn cynnwys Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, ei ddirprwy Guto Bebb a’r Gweinidog Brexit David Jones.

Doedd dim llawer o newid i’r cabinet, gyda’r newid mwyaf yn cynnwys penodi Michael Gove yn Ysgrifennydd yr Amgylchedd, bron i flwyddyn ers iddo gael ei ddiswyddo.

‘Galwadau i ymddiswyddo’

Yn ogystal â datgelu mwy o fanylion am y cytundeb posib â’r DUP fe allai Theresa May wynebu galwadau i ymddiswyddo gan aelodau o Bwyllgor 1922.

Er hyn, mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu ei bod am wasanaethu tymor llawn o bum mlynedd, a hynny wedi i ddau o’i phrif ymgynghorwyr, Nick Timothy a Fiona Hill, ymddiswyddo wedi’r etholiad.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson wedi gwadu ei fod yn ceisio am yr arweinyddiaeth gan ddweud ei fod yn llwyr gefnogi Theresa May.

Mae disgwyl iddi gyfarfod ag arweinydd DUP dydd Mawrth, Arlene Foster, sydd wedi mynnu yn y gorffennol na all Gogledd Iwerddon fforddio gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.