Protest debyg yn Parliament Square yn Llundain (Llun: PA)
Mae cannoedd o bobol wedi ymgasglu yn Llundain i orymdeithio yn erbyn penderfyniad Theresa May i droi at blaid Wyddelig y DUP i gynnal ei llywodraeth.

Mae’r gorymdeithwyr wedi bod yn cario arwyddion gwrth-DUP a rhai yn cefnogi Jeremy Corbyn wrth iddyn nhw ymgasglu yn Parliament Square cyn symud ymlaen i Stryd Downing.

Ymhlith y rhai oedd wedi annerch y dorf roedd trefnwyr mudiadau Stand Up To Racism a Stop The War Coalition.

Roedd y protestwyr yn llafarganu fod y DUP yn “hiliol, rhywiaethol, gwrth-hoyw”.