Theresa May (Llun: Jonathan Brady/PA Wire)
Mae dau o ymgynghorwyr Theresa May wedi ymddiswyddo yn dilyn pryderon y byddai her i arweinyddiaeth y Prif Weinidog pe baen nhw’n aros yn eu swyddi.

Nick Timothy a Fiona Hill sy’n cael y bai gan rai Ceidwadwyr am eu perfformiad siomedig yn yr etholiad cyffredinol.

Roedd disgwyl her i’w harweinyddiaeth gan y meinciau cefn ddydd Llun pe bai’r ddau yn dal yn eu swyddi bryd hynny, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd Nick Timothy ei fod e’n derbyn cyfrifoldeb am ei ran wrth lunio maniffesto’r blaid sydd wedi cael ei feirniadu gan nifer o aelodau seneddol.

Dywedodd ei fod e’n difaru nad oedd e wedi cynnwys addewid i roi terfyn ar gostau gofal cymdeithasol, er bod Theresa May yn dweud ei bod hi’n bwriadu gwneud hynny beth bynnag.

Mae gan y Ceidwadwyr 318 o seddi, ac mae angen cymorth y DUP arnyn nhw bellach i sicrhau bod eu polisïau’n derbyn digon o gefnogaeth.

Mae disgwyl cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw ynghych pwy fydd yng Nghabinet newydd Theresa May.