Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi datgan ei bod yn bwriadu sefydlu Llywodraeth er gwaetha’r ffaith nad oes ganddi fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mynnodd y byddai’n dibynnu ar gefnogaeth y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) er mwyn pasio deddfwriaethau yn y Senedd.

Cynhaliodd y Prif Weinidog drafodaethau â’r DUP wrth i’r canlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi ac yna teithiodd i Balas Buckingham i ofyn i’r Frenhines am ganiatâd i sefydlu Llywodraeth.

Er iddi golli dwsin o Aelodau Seneddol, mae’n bwriadu parhau â’u chynlluniau i dynnu’r Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd a sefydlu dêl fasnach newydd.

Mi fydd yr apwyntiadau gweinidogol yn cael eu cyhoeddi’n hwyrach heddiw.

Galw am ymddiswyddo

Yn barod mae rhai aelodau o’r Blaid Geidwadol wedi galw ar eu harweinydd i ailystyried ei safle, yn sgil yr etholiad cynnar oedd fod cynyddu mwyafrif y blaid.

Mae Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi erfyn ar Theresa May i ymddiswyddo a gadael iddo sefydlu llywodraeth leiafrifol, gan nodi: “Rydym yn barod i wasanaethu’r wlad.”