Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, yn dod i Fae Colwyn heddiw (Llun: Garry Knight CCA 2.0)
Wrth wynebu’r diwrnod olaf o ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol mi fydd arweinwyr pleidiau’r Deyrnas Unedig yn ymweld â chymaint o etholaethau ag sy’n bosib heddiw.

Ar ôl ymgyrchu yng Glasgow, fe fydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn ymweld â Bae Colwyn cyn parhau ar ei daith i Lundain.

Bydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn annerch ymgyrchwyr yn Nhreorci lle fydd hi’n annog pobol i bleidleisio dros ei phlaid er mwyn “amddiffyn Cymru rhag y gwaethaf o lywodraeth Dorïaidd”.

Fe fydd Theresa May yn gweithio ei ffordd o ddwyrain i orllewin Lloegr, tra bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, yn rhan o ddigwyddiadau yn ne ddwyrain Lloegr.

Bydd gorsafoedd pleidleisio yn agor bore fory am 7yb ac yn cau am 10yh.