Donald Trump a Theresa May ddechrau'r flwyddyn (Llun PA)
Mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud wrth Donald Trump ei bod wedi’i ‘siomi’ gyda phenderfyniad yr Unol Daleithiau i adael Cytundeb Paris ar newid hinsawdd.
Mewn galwad ffôn gyda’r Arlywydd yn fuan wedi i’r Tŷ Gwyn wneud y datganiad, fe ddywedodd Theresa May bod y Deyrnas Unedig am aros yn ffyddlon i’r cytundeb amgylcheddol a wnaed yn 2015.
Ond mae hi wedi cael ei beirniadu am fethu ag ychwanegu ei henw i’r datganiad ar y cyd gan arweinyddion Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal sy’n gwrthod bwriad Donald Trump i aildrafod y cytundeb.
Mae Donald Trump yn dweud ei fod yn cadw addewid i adael neu aildrafod y Cytundeb, gan ddweud ei fod wedi ei ethol i gynrychioli “pobol Pittsburg, nid pobol Paris”.
Ymateb yng ngwledydd Prydain
Yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, roedd Theresa May yn dangos “diffyg arweinyddiaeth” wrth beidio ag ymuno â’r gwledydd mawr Ewropeaidd eraill.
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wedyn, fe ddylai’r Prif Weinidog defnyddio’r dylanwad sydd ganddi dros yr Arlywydd i’w annog i ailystyried ei benderfyniad:
“Fe aethoch chi i Washington i ddal dwylo Donald Trump, mae nawr yn bryd i chi ddal ei draed yn nes at y tân”
Ac roedd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn cyfeirio at yr un llun enwog o Theresa May a Donald Trump yn dal dwylo.
“Mae gadael Cytundeb Paris yn beryglus. Yn hytrach na dal dwylo, mi fydda’ i’n gweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r blaned,” meddai.