Rhan o lun yr ymgyrch (Llafur Cymru)
Mae Llafur Cymru wedi lansio ymgyrch ddigidol sy’n ymosod yn ffyrnig ar Blaid Cymru gan honni eu bod yn gwneud gwaith y Torïaid.
Mae’n ymddangos ei bod yn ymgais i fanteisio ar y ffigurau diweddara’ yn yr arolygon barn yng Nghymru, sy’n awgrymu bod Plaid yn cael ei gwasgu gan y ddwy blaid fawr.
Mae’r negeseuon digidol yn dangos llun o wynebau arweinydd Cewidwadwyr Cymru, Andrew R.T. Davies, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ar ddwy ochr i ddarn ceiniog.
Mae’r geiriau’n honni bod y ddwy blaid yn dilyn rhai o’r un polisïau ac y byddai Plaid Cymru’n hoffi gweld y Ceidwadwyr mewn grym.
Polareiddio
Roedd y pôl piniwn diweddara’n awgrymu bod Llafur yn ennill tir yng Nghymru a chanran Plaid Cymru ar ei isa’ ers 30 mlynedd – os yw’r ffigurau’n agos ati, maen nhw’n dangos bod yr etholiad yn polareiddio rhwng y ddwy blaid fawr.
“Mae Plaid yn siarad yn dda ond mae eu record yn dangos eu bod yn hapus i ochri gyda’r Torïaid i wrthwynebu Llafur Cymru,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
“Y gwir yng Nghymru yw fod Plaid Cymru yn gwneud gwaith y Torïaid drostyn nhw.”
Dyw Plaid Cymru ddim wedi ymateb i’r ymgyrch newydd – yr un fwya’ negyddol ac ymosodol yn yr etholiad yng Nghymru hyd yn hyn.