Fe allai Theresa May golli’r etholiad cyffredinol ar Fehefin 8, wrth i bob un o bleidiau San Steffan fethu ag ennill mwyafrif clir, meddai arolwg.

Mae’r pol diweddaraf o etholaethau gwledydd Prydain gan YouGov ar gyfer papur newydd The Times, yn rhagweld y gallai’r blaid Geidwadol golli 20 o seddi a cholli ei mwyafrif.

Mae’n rhagweld y blaid Lafur, dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, yn ennill 28 o seddi ychwanegol.

Mae’r dadansoddiad wedi’i seilio ar fodel cymhleth, ac mae’n awgrymu y gallai menter Theresa May yn galw etholiad cyffredinol brys yn y gobaith o ennill mwyafrif mawr, brofi’n drychinebus iddi.

Y ffigurau

Mae’r dadansoddiad gan YouGov yn rhoi 310 o seddi i’r Ceidwadwyr ar Fehefin 9, o gymharu a’r 330 sydd gan y blaid ar hyn o bryd. Mae 310 rhyw 16 sedd yn brin o fwyafrif clir.

Yn ol YouGov, fe fydd Llafur yn ennill 257 o seddi ar Fehefin 8 (229 sydd gan y blaid ar hyn o bryd).

Fe fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol 10 sedd; fe fyddai gan yr SNP 50 o seddi; Plaid Cymru yn aros fel ag y maen nhw ar 3 sedd; a’r Blaid Werdd gydag un.

Amrywiaeth

Ond mae’r dadansoddiad hefyd yn nodi y gallai’r Toriaid, ar noson dda, ennill cymaint a 345 o seddi – cynnydd o 15 sedd ar ei nifer presennol, ond ddim yn ddigon i sicrhau mwyafrif.

Ar noson wael, meddai YouGov, fe allai nifer seddi’r Ceidwadol fod mor isel a 274.

Mae YouGov wedi holi tua 50,000 o bobol ynglyn a pha blaid y maen nhw’n bwriadu pleidleisio drosti ar Fehefin 8.