Sandbanks yn Dorset yw’r lle drytaf i brynu tŷ wrth lan y môr, gyda thai ar gyfartaledd yno yn costio £664, 051.

I’r gwrthwyneb, mae’r tŷ rhataf ger y traeth ar gael yn yr Alban.

Ar gyfartaledd mae’r tai ym Mhorth Bannatyne ar Ynys Bute yn costio £71, 550.

Felly yn seiliedig ar brisiau cyfartalog, fe allai prynwr gael naw tŷ ym Mhorth Bannatyne am bris un yn Sandbanks.

“Mae trefi glan y môr yn hynod boblogaidd fel llefydd i fyw… ac mae tŷ ger y traeth yn costio,” meddai Martin Ellis, economegydd tai’r Halifax.

Yn y deng mlynedd olaf mae prisiau tai glan y môr wedi cynyddu 25% ar gyfartaledd, o £181,060 yn 2007 i £226,916 yn 2017, sef cynnydd o £382 y mis.