Ymhen pythefnos fe fydd gweithwyr tri o wasanaethau tren gwledydd Prydain yn cynnal streiciau.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cadarnhau fod eu haelodau yn bwriadu cynnal streic ar wasanaethau Arriva Rail North, Southern Railway a Merseyrail.
Fe fydd y streic yn para 24 awr ar Fai 30, sef y diwrnod ar ôl Gŵyl y Banc nesaf.
Maen nhw’n streicio yn erbyn cynlluniau i newid y galw am swyddogion i weithio ar drenau lle bydd trenau’n medru gweithredu gyda ‘gyrwyr yn unig’ erbyn 2020.
Dywedodd yr undeb eu bod nhw ar ddeall y bydd mwy na 8,000 o drenau’r flwyddyn yn cael eu rhedeg heb oruchwylwyr ar eu bwrdd.