Verdun Hayes (Llun: Skydvie Buzz)
Ac yntau’n 101 oed, Verdun Hayes bellach yw’r awyr-blymiwr hynaf erioed.

Torrodd y cyn-filwr y record heddiw wrth ddathlu ei ben-blwydd gyda thair cenhedlaeth o’i deulu yn Nyfnaint.

Ymatebodd i’w gamp gyda “Hwrê!” ar ôl cwblhau’r her.

Fe blymiodd i’r awyr am y tro cyntaf y llynedd er mwyn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed, ond roedd e’n awyddus i dorri record y byd Armand Gendreau.

Wrth gwblhau’r gamp, fe gododd e dros £1,600 at y Llengfilwyr Prydeinig.