Mae dyn 27 oed wedi cael ei gyhuddo o ddefnyddio dronau i smyglo canabis, steroidau a ffonau symudol i mewn i garchar yn Birmingham.

Yn ol Heddlu’r West Midlands, mae Michael Tovey wedi’i gyhuddo o ddefnyddio dau ddrôn i hedfan nwyddau i iard ymarfer corff y carchar ar Hydref 29 a Thachwedd 6 y llynedd.

Dyma’r cyhuddiad cyntaf o’i fath yng ngwledydd Prydain, lle mae unigolyn wedi defnyddio drôn i smyglo nwyddau gwaharddedig i garchar.

Mae Michael Tovey hefyd yn wynebu honiad ei fod wedi hedfan drôn a wnaeth gwympo i’r un iard wyth diwrnod yn ddiweddarach ac yn cario dau ffôn a chyffuriau.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys ynadon ar Fehefin 7.

Terfysg yn y carchar

Bu gwrthryfel yn yr un rhyfel fis Rhagfyr diwethaf, oedd yn cynnwys 500 o garcharorion ac achosodd gwerth £3 miliwn o ddifrod.

G4S sy’n rheoli’r carchar ers 2011 – y cyntaf yng Nghymru a Lloegr i’w gael ei drosglwyddo i ddwylo preifat.