Mae arbenigwyr wedi lansio astudiaeth i weld os ydy cyffuriau sydd yn cael eu defnyddio i leihau colesterol yn medru cael eu defnyddio i drin sglerosis ymledol (MS).

Bydd y prosiect £6 miliwn yn para am chwe blynedd ac yn astudio effaith y cyffur simvastatin ar 1,180 o bobol ar hyd y Deyrnas Unedig sydd â MS eilaidd sydd yn gwaethygu.

Mae’r cyflwr yn effeithio dros 100,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig ac mae tua hanner y bobol sydd yn cael diagnosis yn datblygu MS eilaidd, sydd yn gwaethygu o fewn 15 i 20 mlynedd.

Mi wnaeth astudiaeth fach yn 2014 ddarganfod bod dos uchel o simvastatin yn medru helpu arafu crebachu o fewn yr ymennydd i bobol â MS eilaidd sydd yn gwaethygu.

“Hynod o addawol”

“Mae’r cyffur yma yn hynod o addawol i filoedd o bobol sydd yn byw â’r cyflwr yn y Deyrnas Unedig ac o amgylch y byd, sydd yn wynebu ystod gyfyng o opsiynau o ran triniaeth,” meddai’r Prif Ymchwilydd o Goleg Prifysgol Sefydliad Niwroleg Llundain, Dr Jeremy Chataway.

“Bydd yr astudiaeth yma yn sefydlu yn bendant os ydy simvastatin yn medru arafu datblygiad anabledd dros gyfnos o dair blynedd, ac rydym ni yn hyderus y bydd hi.”