Nwy Prydain
Mae Centrica, perchennog Nwy Prydain, wedi beirniadu cynlluniau’r Llywodraeth i roi cap ar brisiau ynni, gan rybuddio y gall arwain at filiau uwch i gwsmeriaid a lleihau cystadleuaeth.
Dywed y cwmni ynni ei fod wedi cynnal trafodaethau rheolaidd gyda gweinidogion ac wedi awgrymu “ffyrdd amgen” i wella’r farchnad a mynd i’r afael a phryderon heb orfod rheoleiddio prisiau.
Mewn datganiad dywedodd Centrica nad yw’n cefnogi “unrhyw ffurf o reoleiddio prisiau. Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu y byddai hyn yn arwain at lai o gystadleuaeth a dewis, ac o bosib, prisiau uwch ar gyfartaledd.”
Cafodd y diwydiant ynni ergyd ym mis Ebrill ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Damian Green gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn rhoi cap ar brisiau ynni os yw’n ennill yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin.
Yn y cyfamser mae Centrica yn dweud ei fod wedi colli 261,000 o gwsmeriaid yn y chwarter cyntaf, gan gadarnhau y bydd yn torri costau o £250 miliwn ac wrthi’n cael gwared a 1,500 o swyddi eleni.