Mae’n bosib y gall prawf gwaed syml helpu doctoriaid i ddatblygu triniaeth i ddynion â chanser ar y brostad.

Gall y prawf newydd ragweld pa gleifion sy’n debygol o ymateb i gyffuriau traddodiadol, a pha rhai fyddai’n ymateb yn well i driniaethau eraill.

“I atal canser y brostad rhag lladd, mae’n rhaid i ni gamu i ffwrdd o’r ymdriniaeth ‘un ateb i bawb’,” meddai Cyfarwyddwr Ymchwil Cancr Y Brostad UK, Dr Iain Frame.

“Gall y prawf yma fod yn gam mawr tuag at hynna ac mi fyddwn ni yn cadw llygad a’n dilyn ei ddatblygiad.”

Gyda’r prawf gwaed mae modd datgelu os oes gan unigolyn enynnau penodol sydd yn gwneud y corff yn llai ymatebol i’r cyffuriau abiraterone ac enzalutamide.

Pob blwyddyn mae tua 41,000 o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn cael diagnosis o ganser ar y brostad ac mae 11,000 yn marw o’r clefyd.