Hefin Wyn
Mae Hefin Wyn yn gyfarwydd i nifer fel awdur a newyddiadurwr. Ond heddiw, fe fydd yn sefyll i fod yn gynghorydd yn ward Maenclochog.

Wedi gyrfa hir yn newyddiadurwr – bu’n olygydd colofn roc Y Cymro yn ystod y 1970au – bellach mae’n golygu ei bapur bro lleol, Clebran.

Ac, wrth hoelio ei fflag at y mast, ar ol gyrfa o beidio â datgan ei gefnogaeth wleidyddol, mae’n dweud mai Plaid yw’r dewis naturiol iddo.

“Dw i ddim yn newyddiadura i ennill bywoliaeth bellach ac mae gen i farn,” meddai wrth golwg360. “O’n i’n teimlo ei bod hi’n rhyfedd nad oedd gan Blaid Cymru neb i sefyll yn yr etholiad. O’n i’n teimlo bod gen i rywfaint o amser ar fy nwylo…

“Dyma fi’n rhoi cynnig arni gan feddwl bod hi’n rhyfedd iawn nad yw ardal fel Maenclochog eisoes yn gadarnle i Blaid Cymru o feddwl am y mawrion fel Waldo Williams fan hyn wnaeth osod sylfaen i genedlaetholdeb yn Sir Benfro.”

Annibynnol Plws

Mae Hefin Wyn yn agored ei wrthwynebiad i’w unig gystadleuydd yn y ward, Huw Meredydd George, a’i grŵp ar y Cyngor Annibynnol Plws’ – yn benodol oherwydd eu hymdriniaeth o’r Gymraeg.

“Dy nhw ddim yn cynnig polisïau fel y cyfryw,” meddai Hefin Wyn. “Mae hynny’n cael ei weld yn amlwg iawn o ran y sylw sydd yn cael ei rhoi i’r iaith Gymraeg. Ac mae Huw Meredydd George yn aelod o’r cabinet sydd â chyfrifoldeb portffolio dros y Gymraeg.”

Un enghraifft benodol sydd wedi denu sylw Hefin Wyn yw’r diffyg gwasanaeth cyfieithu yn adrannau cymdeithasol y sir – collodd Sir Benfro achos tribiwnlys wythnos ddiwethaf yn sgil eu penderfyniad i osgoi darparu’r gwasanaeth.

“Does dim un awdurdod arall wedi ceisio apelio yn erbyn hynny,” meddai. “Pam felly y mae Huw George yn credu dylid hepgor hynna. Yn weinidog yr efengyl hefyd sydd bob tro yn pregethu trwy gyfrwng y Gymraeg.”

“Mae’n iawn felly i gyflwyno’r efengyl yn Gymraeg ond dyw hi ddim yn briodol i ganiatáu i rywun ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad â’r cyngor sir sydd yn ei gyflogi e.”

“Darnio dadleuon”

Mae Hefin hefyd wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â trols ar wefan Facebook ac wedi derbyn “ymateb diddorol.”

“Dw i wedi gosod cwpwl o bethau fan hynny ac mae’r ymateb wedi bod yn arswydus ar ryw olwg. Mae un neu ddau yn wrthwynebus i unrhyw beth yn ymwneud â’r Gymraeg. Yn hytrach na’u hanwybyddu dw i am fynd ati ddarnio eu dadleuon gwantan nhw.”