Mae’n bosib y gallai’r Deyrnas Unedig wynebu bil o beth bynnag £84.5 biliwn wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl adroddiadau.
Yn ôl y Financial Times, roedd Brwsel yn wreiddiol wedi gobeithio taro ‘dêl ysgariad’ gwerth £50.7 biliwn, ond gall gofynion pellach gan yr Undeb arwain at fil uwch.
Yn dilyn Brexit, mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r Deyrnas Unedig gyfrannu at daliadau ffermio, ac y gall Prydain gael ei hatal rhag derbyn cyfran o asedau’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r papur hefyd yn honni mai dim ond trwy brif drafodwr y Comisiwn Ewropeaidd, Michel Barnier, y bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, yn medru cynnal trafodaethau Brexit, er iddi hi ddatgan y byddai’n trafod telerau gadael gydag arweinyddion gwledydd Ewrop yn uniongyrchol.
“Clonc o Frwsel”
Daw’r adroddiadau yn sgil cyfarfod wythnos ddiwethaf rhwng Theresa May ac Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker.
Yn ôl rhai honiadau mi roedd y cyfarfod yn Stryd Downing yn un lletchwith, ond mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod y sïon a’u galw’n “glonc o Frwsel.”